Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Iau, 29 Medi 2022
Amser:
09.02 -
14.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12970
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Emma Williams, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Jo Larner, Llywodraeth Cymru Simon White, Llywodraeth Cymru Tanya Wigfall, Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Claire Germain, Llywodraeth Cymru Emma Smith, Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol.
2 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru
Jo Larner, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau, Llywodraeth Cymru
Tanya Wigfall, Pennaeth y Rhaglen Datgarboneiddio Preswyl, Llywodraeth Cymru
Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru
2.2. Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu papur yn amlinellu’r fformiwla ar gyfer gosod rhent cymdeithasol yng Nghymru.
3 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Llywodraeth Leol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru
Emma Smith, Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
3.2. Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:
· Nodyn ar lefelau’r cronfeydd wrth gefn a gedwir i ddelio â’r argyfwng costau byw, ar ôl i’r gyllideb atodol gael ei chyhoeddi.
· Nodyn ar y ffyrdd gorau posibl o ddefnyddio cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol yng Nghymru.
· Manylion am glercod cynghorau tref a chymuned sy'n weithgar yn wleidyddol mewn cynghorau.
· Rhagor o wybodaeth am effaith cael gwared ar y gronfa democratiaeth ddigidol ar anghenion digidol llywodraeth leol.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad ar yr ymchwiliad i ail gartrefi
4.1.a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar yr ymchwiliad i ail gartrefi.
4.2 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch cynlluniau peilot etholiadol llywodraeth leol
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch cynlluniau peilot etholiadol llywodraeth leol.
4.3 Llythyr ar y cyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru ac Arweinyddiaeth Tai Cymru ynghylch Safon Ansawdd Tai Cymru
4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru ac Arweinyddiaeth Tai Cymru ynghylch Safon Ansawdd Tai Cymru.
4.4 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin
4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin.
4.5 Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag arferion awdurdodau lleol yng Nghymru wrth ymdrin â chwynion
2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag arferion awdurdodau lleol yng Nghymru wrth ymdrin â chwynion.
4.6 Rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch asedau cymunedol
4.6.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth bellach gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch asedau cymunedol.
4.7 Papur gan Dr Sarah Nason, Prifysgol Bangor: Deddfu i Rymuso Cymunedau: Cymharu Cyfraith Caffael Asedau Cymunedol yn y DU
4.7.a Nododd y Pwyllgor y papur gan Dr Sarah Nason, Prifysgol Bangor: Deddfu i Grymuso Cymunedau: Cymharu Cyfraith Caffael Asedau Cymunedol yn y DU.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - trafod y dystiolaeth a ddeth i law o dan eitemau 2 a 3
6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar nifer o faterion a godwyd.
7 Trafod yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i asedau cymunedol
7.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd ar nifer o newidiadau.
8 Trafod y dull ar gyfer gwaith ar ddigartrefedd
8.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer gwaith ar ddigartrefedd.
9 Trafod y dull gweithredu ar gyfer gwaith diwygio'r dreth gyngor
9.1. Trafododd y Pwyllgor y dull ar gyfer gwaith ar ddiwygio'r dreth gyngor.